Tyred hyfryd foreu tawel,
Tyred hafaidd ddedwydd ddydd,
Pan ga'r dorau pres eu hagor,
Pan y delo'r caeth yn rhydd;
Rho arwyddion, &c.,
I fod hyny yn nesâu.
Trwy y niwl a'r tywyll gwmwl,
Gwelaf draw yr hyfryd wlad,
Nes yw'm ffydd yn llefain allan,
Dacw ddedwydd dŷ fy Nhad:
Dyma ddigon, &c.,
I mi lwyr anghofio'm gwae.
Yn y wlad 'r wy'n myned iddi,
Mi gaf ddianc ar fy mhoen, -
Gorphwys byth tu draw i ofid,
Yn nghymdeithas Duw a'r Oen;
Ni ddaw tristwch, &c.,
Byth i mewn tros fryniau'r nef.
Ni bydd yno gofio beiau,
Dim ond llawn faddeuant rhad;
Cofio'r groes,
a grym y cariad,
A chlodfori am y gwaed:
Darfu ofni, &c.,
Daeth llawenydd yn ei le.
William Williams 1717-91
Tôn [878747]: Dix (Coral Ellmynig) gwelir: Bydd fy yspryd mhen ychydig Daethum trwy afonydd dyfnion Dechrau canu dechrau canmol (F')enaid egwan paid ag ofni ('Dyw d'elynion ...) Mae fy enaid am/yn ehedeg Nid oes yno gofio beiau Rhwng cymylau duon tywyll Trwy y niwl a'r tew gymylau Wele'n dyfod ar y cwmwl (Mawr yw'r enw ...) |
Let a delightful quiet morning come,
Let a summery happy day come,
When the doors of brass get opened,
When the captives come free;
Give signs, &c.,
That this is drawing near.
Through the fog and the dark cloud,
I see yonder the delightful land,
Until my faith cries out
Yonder is the happy house of my Father:
This is enough, &c.,
For me completely to forget my woe.
In the land I to which I am going,
I shall get to escape from my pain, -
To rest forever beyond grief,
In the fellowship of God and the Lamb;
Sadness shall not come, &c.,
Ever within over the hills of heaven.
No remembering of faults shall be there,
Only full free forgiveness;
Remembering the cross,
and the power of the love,
And extolling for the blood:
Fearing perished, &c.,
Joy came in its place.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|